Y Pwyllgor Cyllid
Finance Committee
Jane Hutt
Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
25 Chwefror 2015
Annwyl Jane,
Ail Gyllideb Atodol 2014-15
Diolch am ddod i’r Pwyllgor i roi tystiolaeth ddoe. Ysgrifennaf atoch i egluro’r sefyllfa o ran comisiynu ‘Adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield: Degawd o Gyni i Gymru?’. Pan ofynnwyd yn y Pwyllgor pwy a oedd wedi comisiynu’r adroddiad hwn, dywedasoch:
“I think I’d have to clarify exactly with the Minister for Health and Social Services. … It wasn’t commissioned by the Welsh Government, but the Welsh Government wanted to—. … I think it was felt outside the Welsh Government, but welcomed by the Welsh Government, that we needed that overview, which would very much fall alongside a Nuffield overview in England in terms of finances.”[1]
Ar ôl edrych ar Adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield, rwy’n nodi ei fod yn dweud:
“This is an independent report, which has been commissioned by the Welsh Government.”
Byddwn yn ddiolchgar o gael eglurhad gennych ar y mater hwn, ac oherwydd yr amserlenni sy’n gysylltiedig â’r gyllideb atodol, byddwn yn ddiolchgar o gael ymateb buan.
Yn gywir,
Jocelyn Davies AC
Cadeirydd